"Yr 'F-Word'"
- Cyhoeddwyd

Mae Nia Medi yn cyflwyno Atebion, cyfres o raglenni ar BBC Radio Cymru sy'n trafod y pynciau sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru.
Mewn blog i BBC Cymru Fyw mae Nia yn trafod pwnc sydd wedi cael ei gam-ddehongli dros y blynyddoedd:
Pryfoclyd?
Ma'r 'F- word' nôl. Na, nid y gair fydde'n achosi fi i gael y sac tase'n i'n meiddio ei ynganu ar Radio Cymru, ond gair pryfoclyd arall, gair sy'n achosi dadle mawr ar wefannau cymdeithasol ar draws y byd a gair sydd â dadle mawr ynglŷn a'i ystyr.
Yn syml, y gair dadleuol yma yw 'ffeministiaeth'.
Ond beth ma'r gair yn ei olygu i chi? Mae rhai o'r farn mai cydraddoldeb rhwng y rhywiau yw'r ystyr, eraill yn meddwl mai ymgyrchu dros hawliau merched yw ffeministiaeth ac ambell un yn ei weld fel gair brwnt, sy'n gysylltiedig â merched yn casau dynion, yn 'gwrthod' shafio eu ceseiliau ac yn llosgi bras mewn protest.
Agweddau
Un peth sy'n sicr, mae ffeministiaeth nôl ar ei anterth a hynny o bosib wrth i ferched (a dynion) sylweddoli yn 2014 bod y gwahaniaeth mewn cyflog rhwng merched a dynion yn parhau i fodoli, bod lefelau o agweddau sexist tuag at ferched mewn bywyd bob dydd yn bodoli ar lefel brawychus, ac er bod bron i ganrif ers i ferched ennill yr hawl i bleidlais, bod cynrychiolaeth merched mewn rhai rhannau o fywyd cyhoeddus ddim wedi newid rhyw lawer ers dyddiau Lloyd George.
A yw'r agweddau sexist yma yn gwthio'r twf newydd mewn ffeministiaeth? Ar Atebion yr wythnos hon byddwn yn clywed straeon merched ifanc dros Gymru a'u barn nhw am ffeminstiaeth a'r symudiad newydd 'rhywiaeth bob dydd' neu everyday sexism - symudiad sy'n rhoi sylw i'r agwedde a sylwade rhywiaethol mae merched yn eu ddioddef o ddydd i ddydd.
Profiadau personol
Cymrwch Elin, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, er enghraifft - mae hi wedi laru ar gael ei phen ôl wedi ei slapio bob tro mae'n mynd allan i glwb yng Nghaerdydd -
"Pam fod dynion yn meddwl fod gyda nhw'r hawl i 'nghyffwrdd i, heb sôn am slapio mhen ôl i? Ydy hyn i fod yn gompliment?" Yn ôl Elin mae ymddygiad fel hyn ymhell o fod yn gompliment, mae'n gwneud iddi deimlo'n fach ac yn agored i niwed.
Mae Bethan yn ferch 18 oed o'r cymoedd ac mae'n casau'r hyn sy'n cael ei adnabod fel lad culture. "Pan o'n i'n 12 oed, es i mewn i'r pyb i nôl fy nhad, a dyma ddyn canol oed yn dod ata i a thrio mynd â fi adre", medd Bethan.
"Ar ôl i dad ddweud wrtho i 'ngadael i fod ac mai ond 12 oed oeddwn i, doedd dim ymddiheuriad, dim sioc ei fod wedi ceisio mynd â merch dan oed adre, jyst chwerthin hyd yn oed yn fwy gyda'i ffrindiau."
Ond cyn i chi feddwl bod Atebion yn mynd i fod yn un ŵyl fawr sy'n lladd ar ddynion - meddyliwch eto, oherwydd mae'n debyg bod rhai dynion hefyd yn ystyried eu hunain yn ffeministiaid ac mi fydd un ohonyn nhw yn ymuno â mi yn y stiwdio, ynghyd â bechgyn eraill yn mynegi barn bod agweddau rhywiaethol yn gallu effeithio arnyn nhw hefyd.
Ymunwch yn y sgwrs felly i drafod yr F-Word - mae croeso i chi gysylltu yn ystod y rhaglen. Dwi'n edrych mlaen yn fawr i glywed eich barn!
Atebion, BBC Radio Cymru, Dydd Sul, 14:00