Cyngor Sir Fynwy'n gwrthod cynllun uno

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Sir, BrynbugaFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwrthod cynlluniau i uno gyda Chyngor Casnewydd.

Mae cyngorwyr Sir Fynwy wedi pleidleisio i wrthod uno gyda Chyngor Casnewydd.

Penderfynodd y cynghorwyr nad oedd yr achos busnes dros uno'n ddigon cryf, a hynny wedi trafodaeth barhaodd am dair awr.

Wrth wrthod cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer uno, dywedodd y cyngor y byddan nhw, yn hytrach, yn archwilio modelau busnes eraill.

Ym mis Medi pleidleisiodd cynghorwyr Casnewydd i wrthod cais i uno.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, ei fod eisiau ymchwilio "opsiynau eraill" a fyddai'n parhau i sicrhau dyfodol democratiaeth leol ac atebolrwydd.

Yn hytrach, bydd yr arweinydd a'r prif weithredwr yn derbyn pwerau i drafod syniadau ar gyfer modelau y dyfodol gyda phartneriaid.

Dywedodd Mr Fox: "Mae Cyngor Sir Fynwy yn cydnabod bod angen gwneud newidiadau i'r drefn lywodraeth leol.

"Ond, mi wnaethon ni gytuno yn ein cyfarfod heddiw nad ydym ni'n credu bod uno gyda chynghorau cyfagos o fudd i bobl Sir Fynwy."