Honiad o ymosodiad rhyw: Arestio heddwas
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas wedi cael ei arestio yn dilyn honiad o ymosodiad rhyw ar ddynes.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod yr unigolyn yn heddwas sy'n gweithio i'r llu ar hyn o bryd, a'i fod yn cael ei gwestiynu ynglŷn â'r drosedd.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu mae'r Adran Safonau Proffesiynol yn ymchwilio i'r mater.
Mae'r llu hefyd wedi cadarnhau bod y mater wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).