Y Fali: ehangu gweithgarwch yr RAF
- Published
Mae BBC Cymru ar ddeall fod y consortiwm preifat sy'n darparu hyfforddiant hedfan ar gyfer yr Awyrlu a'r Llynges Frenhinol yn bwriadu symud eu canolfan hyfforddiant peilot sylfaenol i wersyll RAF y Fali ar Ynys Môn.
Ar hyn o bryd, mae'r hyfforddiant yma, sydd ar gyfer yr Awyrlu a'r Llynges yn cael ei ddarparu yng ngwersyll RAF Linton on Ouse yng Ngogledd Swydd Efrog.
Mae RAF Y Fali wedi bod yn gartref i ganolfan hyfforddiant hedfan ers 1950, ac mae peilotiaid yno ar hyn o bryd yn dysgu i hedfan awyrennau sïet cyflym yr Hawk T2 yn yr ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4.
Dydd Gwener, cyhoeddodd y consortiwm Ascent eu bod yn ffefrynnau i gyflenwi awyrennau hyfforddiant sylfaenol newydd.
Mewn datganiad, dywedwyd y byddai awyrennau Americanaidd Beechcraft T-6C, yn seiliedig yn RAF y Fali yn y dyfodol.
Ni chafwyd unrhyw gadarnhad swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ond mae posibilrwydd y gall canolfan hyfforddiant hedfan newydd ar Ynys Môn greu swyddi newydd mewn rolau cefnogi'r ganolfan, megis swyddi peirianneg.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Medi 2008
- Published
- 9 Hydref 2002