Cyhuddo dyn busnes o Fôn o beryglu awyrennau
- Cyhoeddwyd

Mae'r BBC ar ddeall bod dyn busnes amlwg a chyn gynghorydd o Ynys Môn wedi cael ei gyhuddo o beryglu awyrennau'r llu awyr.
Mae John Arthur Jones o Fodffordd ar fechnïaeth ar hyn o bryd ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon Caergybi ar 2 Rhagfyr.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod dyn 64 oed wedi cael ei gyhuddo o 13 o droseddau o dan gymal 137 o'r ddeddf llywio awyr, sef "peryglu awyren neu berson o fewn awyren naill ai'n ddiofal neu'n esgeulus rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014".
Mae'r honiadau'n ymwneud ag awyrennau Hawk o'r Awyrlu yn Y Fali a defnydd golau llachar.
Wrth siarad gyda'r BBC heno dywedodd Mr Jones bod "honiadau wedi eu gwneud bod golau tortsh wedi ei anelu at awyren jet" ond nad oedd ganddo sylw pellach i wneud.
Dywedodd bod cais am iawndal o dros £1 miliwn wedi cael ei gyflwyno i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain wedi i drigolion gwyno am awyrennau yn hedfan yn isel uwchben eu heiddo.