Helynt yng Nghasnewydd: arestio 19 o bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfanswm o 19 o bobl rhwng 15 oed a 51 oed wedi cael eu harestio yng Nghasnewydd yn sgil adroddiadau o helynt yno.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw yno am 07:17 i adroddiadau bod perchnogion tir yn ceisio symud pobl oddi ar safle.

Bu'n rhaid i ddau o'r troseddwyr gael triniaeth yn yr ysbyty i fân anafiadau.

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i nifer o arfau gan gynnwys llafnau a gwrthrychau miniog.

Roedd dwy ddynes ymysg y bobl cafodd eu harestio ar stryd Albany fore ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu Gwent: "Mae heddlu'n parhau i gynnal eu hymchwiliad o'r lleoliad, mi fyddwn yn lleoli swyddogion ychwanegol yn yr ardal o fewn y dyddiau nesaf i sicrhau diogelwch trigolion lleol."