Negeseuon rhyw: Galw am newid y gyfraith

  • Cyhoeddwyd
Cysgod plant
Disgrifiad o’r llun,
Cynnydd o 168% mewn cwynion

Mae elusen yr NSPCC yn cyhoeddi ymgyrch newydd yn galw am newid y gyfraith fel ei bod hi'n anghyfreithlon i oedolyn anfon neges o natur rywiol at blentyn.

Ar hyn o bryd nid yw'n drosedd i rywun dros 18 oed i anfon neges destun rhyw neu e-bost tebyg i rywun dan 16 oed.

Mae'r NSPCC yn rhybuddio fod y cynnydd mewn dulliau o gyfathrebu ar y we yn golygu fod pobl ifanc yn fwy tebygol o dderbyn negeseuon rhywiol gan oedolion.

Derbyniodd canolfannau Childline Cymru 238 cwyn y llynedd o gamdriniaeth rywiol ar-lein.

Mewn arolwg gan YouGov roedd dros 90% o'r rhai gafodd ei holi yn cefnogi newid y gyfraith.

Yn ôl yr arolwg roedd 71% o oedolion yn credu bod gyrru negeseuon o'r fath at blant eisoes yn anghyfreithlon.

Wrth lansio ymgyrch Gwendid yn y Gyfraith dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r NSPCC yng Nghymru, Des Mannion: "Mae'r cynnydd mewn cyfathrebu ar-lein yn golygu bod plant yn fwyfwy agored i dderbyn negeseuon rhywiol gan oedolion, un a'i ar gyfyngau cymdeithasol neu trwy ap.

Disgrifiad o’r llun,
Mae gan blant fynediad hwylus i'r we heddiw

"Mewn sawl achos, mae'r heddlu wedi bod yn ddi-rym i droseddi unigolion."

Dywed yr NSPCC fod nifer y plant gafodd eu cynghori gan Childline ar gamdriniaeth rywiol ar-lein wedi cynyddu 168% eleni.

Dywedodd plentyn o Gymru wrth yr elusen: "Fe ddechreuais i siarad gyda rhywun ar-lein a ddywedodd ei bod yn blentyn yn ei harddegau, Roedden ni'n gyrru ymlaen cystal, rhoddais fy rhif ffôn symudol iddynt. Fe ddechreuodd y person siarad am ryw gyda fi yna cefais wybod ei bod yn hen iawn.

"Rwy'n teimlo mor ddwl am roi fy manylion personol iddo. Dwi ofn beth sydd am ddigwydd i mi."

Dywedodd y ferch ysgol, heb yr NSPCC na fyddai hi wedi bod a'r arfau angenrheidiol er mwyn ei galluogi i ddianc rhag yr ystafelloedd sgwrsio ar y we.

Mi allunrhyw oedolyn sydd yn pryderu am blentyn neu sydd angen cyngor gysylltu gyda'r NSPCC ar y rhif 0808 800 5000.

Mi allplant a phobl ifanc sydd eisiau cymorth ffonio ChidLine. Y rhif ydy 0800 1111.