Cynllun fferm solar i Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni ynni adnewyddol a gyhoeddodd gynlluniau i adeiladu fferm solar ym Mhenrhyn Llyn wedi cyhoeddi ail gynllun i ardal Wrecsam.
Byddai'r parc solar yn cael ei adeiladu ar dir amaethyddol rhwng Acrefair a Penycae.
Y bwriad yw creu gwerth 5 MWp o ynni, trwy ddefnyddio miloedd o baneli wedi eu gosod ar ffrâm fetel 2.5 metr o uchder.
Dywedodd y cwmni, Lightsource, y byddai'r paneli solar yn gallu darparu pŵer i werth 1,350 o dai.
Mae'r cwmni yn cynnal "noson wybodaeth gymunedol" ar 28 o Hydref.
Maent eto i wneud cais am ganiatâd cynllunio gan Gyngor Wrecsam.
Cyhoeddodd y cwmni gynlluniau am brosiect mwy ym Moduan ger Pwllheli fis Awst.
Mae sawl parc solar wedi eu cymeradwyo yng Nghymru yn ddiweddar, yn rhannol o ganlyniad i gymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU.