Denu disgyblion i'r gwyddorau
- Cyhoeddwyd
Bydd y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn lansio ymgyrch ddydd Gwener yn annog mwy o ddisgyblion i ganolbwyntio ar y gwyddorau.
Yn ôl Mr Lewis mae angen mwy o bwyslais ar ddenu mwy o ferched drwy bwysleisio faint o swyddi sydd ar gael i wyddonwyr.
Dim ond tua 20% o fyfyrwyr lefel A ffiseg sy'n ferched, sefyllfa sydd angen newid, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymgyrch newydd yn pwysleisio'r ffaith y bydd angen miliwn yn rhagor o wyddonwyr, peirianwyr a mathemategwyr ym Mhrydain dros y pedair blynedd nesaf.
Cymysg fu hanes diweddar y gwyddorau yn ysgolion Cymru.
Roedd yna newyddion calonogol yn y canlyniadau TGAU ym mis Awst, ond siom yn y canlyniadau PISA ryngwladol y llynedd.
Un sy'n ymuno ac yn rhoi help llaw i ymgyrch Llywodraeth Cymru yw Dr Lyn Evans, pennaeth prosiect Cern Hadron Collider yn y Swistir.
Fe fydd Dr Evans, sy'n wreiddiol o Aberdâr, yn ymweld ag Ysgol Afon Taf, Merthyr dydd Gwener.