Cyn ddirpwy brifathro yn apelio

Gareth Williams Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd Gareth Williams ei ddal yn dilyn ymchwil gan Heddlu yn Nhoronto

Mae Gareth Williams, cyn ddirprwy brifathro Ysgol Gyfun Glantaf sydd wedi ei garcharu am bum mlynedd, yn bwriadu apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd.

Cafodd ei garcharu wedi iddo gyfaddef i ffilmio plant yn y dirgel, yn ogystal â bod â miloedd o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Cyfaddefodd Gareth Williams i 31 cyhuddiad yn ei erbyn - gan gynnwys naw cyhuddiad o voyeuriaeth, 20 cyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, a dau o feddu ar luniau anweddus o blant.

Bydd ei apêl i'w glywed yn y Llys Apêl yn Llundain ym mis Hydref.

Straeon perthnasol