Cofeb er cof am dros 1,100 o filwyr o Gymru
- Published
Mae cofeb yn wedi cael ei chysegru dydd Sul i gannoedd o filwyr y Ffiwsilwyr Cymreig a fu farw yn un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd y Bataliwn 1af ei chwalu yn llwyr ar ôl 20 diwrnod o frwydro caled yn Hydref 1914.
Bu farw dros 1,100 o filwyr yn yr ardal o amgylch Ieper, ac mae teuluoedd y dynion wedi dod i wlad Belg er mwyn nodi 100 mlynedd ers y digwyddiad.
Bydd y gofeb yn cael ei dadorchuddio gerbron pentre' Zandvoorde ddydd Sul.
Hefyd bydd seremoniau yn cael eu cynnal yn Gheluvelt i gofio dynion y South Wales Borderers a'r Household Cavalry gafodd eu colli.
Fe wnaeth 1,100 o filwyr y Ffiwsilwyr Cymreig gerdded 120 er mwyn cyrraedd maes y gad yn Ieper, y nod oedd gwthio'r Almaenwyr allan o wlad Belg.
Ymladd
Ond roedd maint a chryfder y gelyn yn fwy na'r disgwyl, ac ar ôl dau ddiwrnod o ymladd dim ond 200 o'r Ffiwsilwyr oedd ar ôl.
Mae brwydr gyntaf Ieper yn cael ei chofio am y frwydr wnaeth newid dull yr ymladd, a dechrau cyfnod rhyfel y ffosydd.
Wedi i fwy o filwyr wrthgefn chwyddo rhengoedd y bataliwn i 400, bu'n rhaid i'r milwyr ddioddef pythefnos o danio wrth law gynnau mawr yr Almaenwyr.
Ar 30 Hydref 1914, cafodd mwy na 275 eu llad a 50 arall eu hanafu neu eu cymryd yn garcharorion.
Y diwrnod canlynol dim ond 86 o ddynion oedd ar ôl. Fe wnaeth y brwydro barhau am rai wythnosau wedyn, tra bod y bataliwn yn cael ei ailffurfio.
Un o'r rhai fyd dyn cael ei gofio dydd Sul yw'r cyrnol is-gapten "Hal" Osbert Samuel Cadogan, pennaeth y Bataliwn.
Bu o farw ar faes y gad.
Mae ei ŵyr, Cyrnol Henry Cadogan, o Wrecsam wedi ysgrifennu llyfr am ei daid.
"Cafodd mwy o daflegrau eu tanio yn yr wythnosau hynny nag yn holl gyfnod Rhyfel Y Boer, " meddai.
"Byddai'r dynion heb weld ei debyg. Ond roedd o'n bwysig, oherwydd fe wnaethant atal yr Almaenwyr, o drwch blewyn, rhag cyrraedd yr arfordir - a byddai hynny wedi golygu colli'r rhyfel."