Ehangu hyfforddiant i beilotiaid yng nwersyll y Fali
- Published
Mae'r consortiwm preifat sy'n darparu hyfforddiant hedfan ar gyfer yr Awyrlu a'r Llynges yn bwriadu symud eu canolfan hyfforddiant peilotiaid i wersyll RAF y Fali ar Ynys Môn.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd y ddarpariaeth hyfforddiant yn symud i Fôn.
Gobaith y cyngor sir yw y bydd y newyddion yn golygu hwb i swyddi ar yr ynys.
Ar hyn o bryd mae consortiwm Ascent yn gwneud y gwaith hyfforddi yng ngwersyll RAF Linton on Ouse yng Ngogledd Sir Efrog.
Mae'r Fali wedi bod yn gartref i ganolfan hyfforddiant hedfan ers 1950, ac mae peilotiaid yno ar hyn o bryd yn dysgu i hedfan yr Hawk T2 yn yr ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4.
Dydd Gwener, cyhoeddodd Ascent mai nhw oedd yn cael eu ffafrio i gyflenwi awyrennau hyfforddiant newydd.
Dywedodd datganiad ar ran y consortiwm y byddai awyrennau Americanaidd Beechcraft T-6C, yn cael eu lleoli yn y Fali yn y dyfodol.
Pencadlys
Fe allai cryfhau'r ganolfan hyfforddiant greu swyddi newydd, fel swyddi peirianneg.
Mae gwasanaeth Chwilio ac Achub yr Awyrlu, sydd a'i bencadlys yn Fali, yn y broses o roi'r gorau i'w dyletswyddau dros y ddwy flynedd nesaf. Mae cwmni preifat Bristow wedi ennill cytundeb gan Lywodraeth y DU i wneud y gwaith.
O ganlyniad bydd adnoddau a chanolfan uned hyfforddi Sgwadron 22, Chwilio ac Achub, ar gael ar gyfer unrhyw fenter newydd.
Dywedodd y cynghorydd Aled Morris Jones, deilydd portffolio datblygu economaidd Pwyllgor Gwaith y cyngor sir: "Mae hyn yn newyddion da, mae'n sicrhau dyfodol canolfan RAF y Fali."
Does dim amserlen bendant wedi ei chyhoeddi eto ynglŷn â'r cynllun i symud y ganolfan hyfforddi o ogledd Lloegr.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Hydref 2014
- Published
- 27 Medi 2008
- Published
- 9 Hydref 2002