Gwahardd Khat: 'Diffyg cefnogaeth'

  • Cyhoeddwyd
Man chewing khatFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Khat ei wneud yn anghyfreithlon ym Mehefin

Does yna ddim digon o gefnogaeth yn cael ei roi i ddefnyddywr Khat wedi i'r cyffur gael ei wahardd yn y DU, yn ôl rhai aelodau o gymuned Somali Caerdydd.

Mae'r cyffur, sy'n boblogaidd gyda phobl o wledydd fel Somalia, Ethiopia a Yemen, yn cael ei gnoi gan ddefnyddwyr.

Dywed yr awdurdodau fodKhat yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl.

Ym mis Mehefin fe gafodd y cyffur ei wneud yng anghyfreithlon gan lywodraeth y DU.

Dywed Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn y broses o gyflwyno cynllun cymorth i ddefnyddwyr.

Beth yw Khat?

  • Planhigyn sy'n wreiddiol o Kenya
  • Yn gyffur sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl o wledydd Somalia, Ethiopia ac Yemen
  • Mae o'n gwneud pobl yn siaradus a hapus, ond mae o hefyd yn gallu achosi pobl i fod yn ddryslyd a methu cysgu
  • Mae'r cyffur yn gallu gwaethygu problemau iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli
  • Mae'n gallu gwneud pobl yn ddig neu yn bryderus

Ffynhonnell: Talk to Frank

Bwriad Llywodraeth y DU drwy wahardd y cyffur yw rhwystro Prydain rhag dod yn ganolbwynt i gangiau smyglo.

Y gred oedd y byddant yn smyglo'r cyffur o Brydain i wledydd lle'r oedd o eisoes wedi ei wahardd.

Cyn y gwaharddiad, roedd 2,560 tunnell o Khat yn cael ei fewnforio i'r DU bob blwyddyn, gan ddod â£2.5 miliwn i goffrau'r Trysorlys mewn trethi bob blwyddyn.

Mae nifer o fenywod o gymunedau Somali wedi cefnogi'r gwaharddiad, gan ddweud fod Khat yn niweidiol i fywyd teuluol.

Roedd yna hefyd bryder y gallai'r cyffur effeithio iechyd meddwl defnyddwyr, gan gynnwys seicosis.

Mae rhai defnyddwyr wedi gorfod cael triniaeth ysbyty.

Cynorthwyo

Ond mae yna feirniadaeth wedi bod o ganlyniad i'r gwaharddiad, a hynny gan aelodau'r gymuned Somali yng Nghaerdydd - un o'r cymunedau Somali hynaf yn y DU.

Yn ôl y beirniaid does yna ddim digon o gefnogaeth wedi ei roi i ddefnyddwyr, wrth i'r gwaharddiad ddod i rym.

Dywedodd Mustafa Ahmed, 26: "Yn anffodus mae'r gefnogaeth wedi bod nesa' peth i ddim o du'r awdurdod lleol a'r llywodraeth.

"'Tae chi'n edrych ar unrhyw gyffur arall, boed e'n alcohol, sigarets, cocên, heroin - mae yna raglenni neu gynlluniau ar gael i helpu defnyddwyr sydd am roi'r gorau i'r arferiad.

"Yn anffodus mae'r gwaharddiad Khat... Ydi mae'n syniad da, ond mae o wedi ei gyflwyno heb unrhyw gynllunio o ran cefnogaeth i'r bobl sy'n ei ddefnyddio....

"Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni wella, ac mae e'n gonsyrn i'r holl gymuned."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn cyflwyno mesurau i gynorthwyo defnyddwyr.

Dywedodd Conrad Eydmann, pennaeth adran strategaeth camddefnydd sylweddau, fod y gwasanaeth yn cael ei ad-drefnu er mwyn sicrhau fod mynediad iddo yn haws.

Ond roedd yn derbyn fod yna oedi wedi bod.

"Rydym am gael system sy'n mynd â'r gwasanaethau i'r person sydd mewn angen, yn hytrach na disgwyl i bobl fynd drwy'r system er mwyn dod o hyd i'r gwasanaeth."