Millwall 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Danny Shittu sgorio yn ei gem gynghrair gyntaf o'r tymor wrth i Millwall ennill am y tro cyntaf mewn naw gem.
Hwn oedd y tro cyntaf i Gaerdydd golli dan Russell Slade, oedd wedi ennill ei ddwy gem gyntaf fel rheolwr.
Fe wnaeth Millwall sicrhau'r tri phwnt ar ôl i Shittu benio i gefn y rhwyd o gornel Shaun Williams.
Daeth y gol ar ôl 54 munud, ond fe roedd hi'n ymddangos fod yna drosedd ar y golgeidwad David Marshall.
Fe wnaeth Caerdydd golli Aron Gunnarsson ar ôl iddio gael ei daro yn ei wyneb yn ddamweiniol gan esgid Ricardo Fuller.