Heddlu yn awyddus i holi dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am wybodaeth ynglŷn â symudiadau Ashely John Robert Bevan.
Maen nhw am holi'r dyn 39 oed am ladradau.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod Bevan yn berson peryglus a dylai'r cyhoedd gadw draw oddi wrtho a chysylltu â'r heddlu pe bai nhw'n ei weld.
Mae o'n dod o ardal Gendros, Abertawe, ac yn aml yn ymweld ag ardal Penlan.
"Er gwaetha holi a chwilio eang rydym wedi methu a dod hyd iddo, " meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Dylai unrhyw un a gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.