Northampton 34-6 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
George North yn sgorio ei gais cyntaf
Roedd yna bedwar cais i'r asgellwr George North wrth i Northampton adfer eu gobeithion o orffen ar frig eu grŵp yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r Gweilch golli'r tymor hwn.
Tarodd North ddwywaith cyn yr egwyl i roi Northampton 20-3 ar y blaen.
Fe gollodd Northampton yn Ffrainc yr wythnos diwethaf, ond wedi'r egwyl fe wnaeth North groesi eto.
Gyda phum munud yn weddill fe sgoriodd gais unigol bendigedig a sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref.
Daeth pwyntiau'r Gweilch o esgid Dan Biggar.