Abertawe 2-0 Caerlŷr
- Published
image copyrightGetty Images
Wilfried Bony sgoriodd y ddwy gol i Abertawe, gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf i'r Elyrch mewn pum gem.
Mae'r canlyniad yn gweld Abertawe yn dringo i'r chweched safle yn yr Uwchgynghrair.
Daeth gol gyntaf Bony ar ôl cyd-chwarae hyfryd gyda Gylfi Sigurdsson, ergyd y dyn o'r Ivory Coast yn curo Kasper Schmeichel.
Yna, wedi 56 munud roedd hi'n 2-0, wrth i'r ymosodwr 25 oed fanteisio ar groesiad Jefferson Montero.
Fe wnaeth Jonjo Shelvey daro'r bar, a dyna hefyd oedd hanes ergyd Esteban Cambiasso o Gaerlŷr yn hwyr yn y gem.