Cleifion Cymru yn fodlon gyda'u meddyg
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o gleifion yng Nghymru yn hapus gyda'u meddyg, yn ôl arolwg newydd.
Dywed yr arolwg fod 94% o'r 55,000 o gleifion gafodd eu holi yn hapus gyda'u meddyg.
Gwnaed y gwaith ymchwil gan Equiniti 360 Clinical.
Bob pum mlynedd mae'n ofynnol i feddygon i gael ymateb gan gleifion - a hynny er mwyn cael trwydded.
Daw'r arolwg yn dilyn wythnos pan fu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan y chwyddwydr - ar lawr Tŷ'r Cyffredin ac yng ngholofnau'r Daily Mail.
Fe wnaeth yr arolwg ddechrau yn Rhagfyr 2012
Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod:
- 98% o gleifion yn meddwl bod eu meddyg yn ystyrlon a moesgar
- 95% o gleifion â ffydd yn eu meddyg
- 95% o gleifion yn credu bod y meddyg yn egluro pethau mewn modd roedden nhw'n ei ddeall
- 88% o gleifion yn hapus gyda lefel eu cyfraniad wrth drafod gofal a thriniaeth
Dywedodd y gweinidog iechyd Mark Drakeford: "Mae'r berthynas rhwng claf a'r meddyg yn cael effaith gwirioneddol ar brofiad y claf.
"Mae'r canlyniadau hyn yn rhoi sicrwydd bod meddygon yng Nghymru yn rhoi gwasanaeth y gellir ymfalchïo ynddo."