Damwain: Ffordd wedi cau
- Published
Mae'r A40 wedi ei gau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn damwain y tu allan i westy'r Manor yn Crug Hywel, Powys.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi cael eu galw am 14:45.
Yn ôl llefarydd roedd yna ddau gar yn y ddamwain rhwng Crug Hywel a phentref Bwlch.
Cafodd tri o bobl eu hanafu.
Cafodd un dyn ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.