Enillwyr gwobrau Bafta Cymru
- Published
Roedd hi'n noson llwyddiannus i Y Gwyll/Hinterland a Sherlock yn seremoni wobrwyo Bafta Cymru yng Nghaerdydd nos Sul.
Fe enillodd y cyfresi drama dair gwobr yr un.
Enillodd Y Gwyll Hinterland wobr y Cyfarwyddwr Ffuglen i Marc Evans, Awdur i Jeff Murphy a Ffotograffiaeth a Goleuo i Richard Stoddard.
Sherlock, serch hynny, oedd yr enillydd yn y categori Drama Deledu, gan ennill y wobr o flaen Y Gwyll/Hinterland a Stella. Enillodd y ddrama ditectif ddwy wobr grefftau hefyd.
Cafodd Doctor Who, The Indian Doctor a 35 Diwrnod y naill wobrau crefftau yn ogystal.
Tom Riley gipiodd yr Actor Gorau am ei rôl flaenllaw yn y ddrama ffantasi Da Vinci's Demons, ac aeth gwobr yr Actores Orau i Rhian Blythe am ei pherfformiad fel Grug Matthews yn y ddrama ysgol Gwaith/Cartref.
O'r Galon
Fe enillodd rhaglen ddogfen O'r Galon - Yr Hardys: Un Dydd ar y Tro y wobr am Ddogfen Sengl.
Y rhaglen o'r gweithle yn Abertawe, The Call Centre enillodd y wobr Cyfres Ffeithiol, a Dylan Wyn Richards aeth â'r wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol am ei raglen ddogfen ar yr hanesydd Dr John Davies, Gwirionedd y Galon.
Griff Rhys Jones gafodd wobr y Cyflwynydd am A Great Welsh Adventure with Griff Rhys Jones.
Aeth gwobr eleni am Ddarllediadau'r Newyddion i dîm ITV News Cymru Wales am eu darllediad o ddedfryd Mark Bridger.
ITV Cymru Wales enillodd hefyd yn y categori Materion Cyfoes am raglen Y Byd ar Bedwar ar ganlyniad Teiffŵn Haiyan.
Y Clwb Rygbi enillodd y wobr Rhaglen Chwaraeon a Darllediad Allanol Byw, Dim Byd yn cael y wobr am Gerddoriaeth ac Adloniant a Cardiff Singer of the World yn ennill y wobr am Sain.
Gwobrau arbennig
Cyflwynwyd tair Gwobr Arbennig Bafta Cymru ar y noson.
Daeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i'r llwyfan i gyflwyno Tlws Siân Phillips i'r newyddiadurwr uchel ei fri o Gymru a Golygydd Dwyrain Canol y BBC, Jeremy Bowen.
Mae'r tlws yn cael ei roi yn flynyddol i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i faes gwneud ffilmiau nodwedd rhyngwladol neu deledu rhwydwaith.
Fe wnaeth y cynhyrchydd a'r awdur o Gymru, Colin Thomas, ddyfarnu Gwobr Gwyn Alf Williams i gwmni Green Bay am eu cynhyrchiad The Miners' Strike - A Personal Memoir by Kim Howells. Rhoddir y wobr yn flynyddol i raglen neu gyfres o raglenni sydd wedi cyfrannu at ddeall a gwerthfawrogi hanes Cymru.
Cafodd Gwobr Arbennig Bafta am Gyfraniad Rhagorol i Deledu ei gyflwyno ar y noson i'r actores boblogaidd, Nerys Hughes, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y comedi sefyllfa teledu The Liver Birds.
Cyflwynwyd y wobr gan John Ogwen, a enillodd yr un wobr yn 2004.