Damwain: Dau wedi marw
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar ger Crughywel brynhawn Sul, mae gyrwyr y ceir wedi marw.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r A40 tua 14:40 wedi i gar Vauxhall Astra a Ford Fiesta daro yn erbyn ei gilydd.
Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r Astra a'r fenyw oedd yn gyrru'r Fiesta.
Yn ogystal, mae dyn oedd yn teithio yn y Fiesta yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Fe gafodd y ffordd ei chau tan yn hwyr nos Sul, er mwyn i swyddogion ymchwilio i beth achosodd y ddamwain.
Mae'r ymchwiliad yn parhau ac mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhywun â gwybodaeth.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2014