Damwain Bangor: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn damwain ffordd ym Mangor.
Fe gafodd criwiau tân eu galw i'r A4087, Ffordd Caernarfon toc wedi hanner dydd, wedi i'r car a'r beic modur fu'n rhan o'r gwrthdrawiad gynnau ar dân.
Bu'r ffordd - un o'r lonydd prysura' yn y ddinas - ynghau am ychydig oriau oherwydd difrod i wyneb y ffordd.
Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans, fe gafodd dyn yn ei 20au ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn cyflwr sefydlog.
Ffynhonnell y llun, Toll
Ffynhonnell y llun, Toll