Carcharor o Gymru wedi dianc o garchar yn ne Sir Gaerloyw.

  • Cyhoeddwyd
Daniel Shankly a Daniel WynneFfynhonnell y llun, Avon and Somerset Police
Disgrifiad o’r llun,
Mae Daniel Shankly (chwith) a Daniel Wynne wedi dianc o'r carchar ers 25 Hydref.

Mae dau garcharor, un ohonyn nhw o Gymru, wedi dianc o garchar agored yn ne Sir Gaerloyw, yn ôl adroddiadau gan yr heddlu.

Roedd Daniel Shankly, 30 oed, a Daniel Wynne, 29 oed, wedi eu gweld diwethaf yng Ngharchar Leyhill am 12:50 ar 25 Hydref.

Methodd y ddau a throi fyny wrth i'r gofrestr gael ei galw am 16:45.

Mae Heddlu Avon a Somerset yn credu bod y ddau wedi dianc gyda'i gilydd, ond efallai eu bod nhw wedi mynd eu ffyrdd eu hunain erbyn hyn.

Mae'r heddlu'n cynghori aelodau o'r cyhoedd i beidio â mynd at y dynion, gan yn hytrach alw 999 yn syth.

Cysylltiadau â Chaerffili

Mae Wynne yn ddyn pum troedfedd a saith modfedd o daldra gyda phen moel gan siarad gydag acen Gymreig. Mae ganddo datŵ o'r enw 'Danny' ar ei fraich chwith.

Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar, gyda dim dyddiad pendant ar gyfer ei ryddhad, am drosedd o ymosod.

Mae Shankly yn cael ei ddisgrifio fel dyn tenau, chwe throedfedd tair modfedd o daldra, gyda gwallt brown byr. Mae ganddo datŵ o'r geiriau 'RIP Nan' ar ei fraich dde.

Cafodd ei ddedfrydu i oes dan glo wedi iddo'i gael yn euog o lofruddio yn 2001.

Mae gan Wynne gysylltiadau â Chaerffili ac mae gan Shankly gysylltiadau ag Weston-super-Mare.