Gareth Bale wedi ei enwebu ar gyfer y Ballon D'or

Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd Bale ran allweddol yn y gemau agoriadol rownd rhagbrofol Ewro 2016

Y Cymro Gareth Bale yw'r unig chwaraewr o Brydain i gael ei enwi ar restr fer y Ballon D'or eleni.

Fe sgoriodd Bale 22 o goliau i'w glwb Real Madrid yn ystod ei dymor cyntaf, gan gynnwys un gôl allweddol a sicrhaodd eu bod yn cipio Cynghrair y Pencampwyr am y degfed tro.

Mae pump o chwaraewyr o uwch-gyngrair Lloegr - Thibaut Courtois, Diego Costa, Angel Di Maria, Eden Hazard a Yaya Toure - hefyd wedi cael eu henwebu ar gyfer y Ballon D'or.

Ond mae disgwyl i enillydd y llynedd, Cristiano Ronaldo ddal ei afal ar y teitl anrhydeddus.

Bydd y rhestr o 23 chwaraewr yn cael ei dorri i dri ym mis Rhagfyr a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 12 Ionawr, 2015 yn Zurich.

Straeon perthnasol