Wardeiniaid traffig i wisgo camerâu corff

  • Cyhoeddwyd
camera
Disgrifiad o’r llun,
Bydd wardeiniaid traffig yn Sir Ddinbych yn treialu'r camerâu sy'n debyg i'r rhai sydd eisoes wedi bod yn cael eu defnyddio gan yr heddlu.

Bydd 'camerâu corff' yn cael eu treialu gan wardeiniaid parcio yn Sir Ddinbych er mwyn helpu i wella eu diogelwch personol.

Bydd y camerâu, sydd yr un maint â ffôn symudol, wedi eu cysylltu â dillad y swyddogion.

Mae disgwyl i'r treial gan Gyngor Sir Ddinbych redeg tan ganol mis Tachwedd, a'r gobaith ydi y bydd yn gwneud gwaith y swyddogion parcio yn haws.

Mae'r defnydd o 'gamerâu corff' wedi cynyddu ym maes rheolaeth parcio yn y blynyddoedd diwethaf.

Nid yn unig wardeiniaid traffig fydd yn defnyddio'r dechnoleg yma, mae'r heddlu eisoes wedi bod yn treialu camerâu yn dilyn digwyddiad ​​'plebgate' yn San Steffan yn 2013.

Mae Heddlu Gwent yn un o chwech o heddluoedd y DU a ddechreuodd dreialu'r dechnoleg ym mis Ionawr eleni.