Swyddog diogelwch yn dwyn £10,000 o beiriannau parcio yn Llandudno
- Cyhoeddwyd

Mae swyddog diogelwch wedi dwyn bron i £10,000 o beiriannau parcio talu ac arddangos mewn parc manwerthu yn Llandudno.
Mae Mark Evans, sy'n 34 mlwydd oed, wedi cyfaddef i ddwyn oddi wrth gwmni 'Parc Llandudno' dros gyfnod o naw mis.
Mae Evans wedi derbyn gorchymyn goruchwylio am 12 mis yn ogystal â gorchymyn i wneud 250 awr o waith di-dâl.
Cafodd hefyd 28 diwrnod i dalu iawndal o £9,899 a £145 o gostau.
Clywodd Ynadon y dref fod ei dad yn barod i dalu'r iawndal.
Mae'n debyg fod Evans wedi llwyddo i barhau i ddwyn am gyfnod o naw mis am ei fod yn newid cyfeiriad y camerâu teledu cylch cyfyng fel nad oedd modd ei weld yn mynd at y peiriannau talu, clywodd llys.
Dywedodd yr erlynydd Tracey Willingham wrth y llys fod Evans, o Landudno, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael problemau gydag alcohol dros y cyfnod yr oedd yn dwyn.
Ychwanegodd Ms Willingham ei fod yn defnyddio'r arian a oedd yn ei ddwyn rhwng mis Hydref y llynedd a mis Mehefin 2014 i brynu alcohol a thocynnau loteri.
"Dywedodd ei fod yn flin iawn am yr hyn oedd wedi ei wneud," meddai Ms Willingham.