Pryder merch am rieni ar goll yn y Caribî

  • Cyhoeddwyd
Arthur Alleyne a Sharon Went-Alleyne
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Arthur Alleyne a Sharon Went-Alleyne ar y ffordd o'u cartref yn St Lucia i Barbados

Mae awdurdodau yn y Caribî wedi dechrau chwilio'r môr ar ôl i gwpl fynd ar goll yn eu cwch hwylio ddydd Sadwrn.

Mae eu merch, Tao Alleyne, sy'n byw yn Nhreherbert yn Rhondda Cynon Taf, wedi dweud bod Arthur Alleyne a Sharon Went-Alleyne yn bwriadu hwylio o'u cartref yn St Lucia i Barbados.

Mae hi'n credu ei bod yn bosib bod eu cwch hwylio, Serenity, wedi colli pŵer mewn storm.

Cadarnhaodd yr awdurdodau yn Barbados eu bod yn chwilio am y cwch.

Roedd Ms Alleyne wedi siarad gyda'i mam, sy'n wreiddiol o Telford yn Sir Amwythig, ddydd Gwener.

Does neb wedi gallu cysylltu a'r gwch ers ddydd Sadwrn.

Dywedodd Ms Alleyne fod ei thad, sy'n 63 mlwydd oed, yn forwr a chapten profiadol ac roedd wedi ei fagu yn y Caribî.

'Neges ffôn rhyfedd'

Mae Ms Alleyne a'i brodyr a chwiorydd wedi apelio i unrhyw un ar ynysoedd agos i Barbados sydd gyda mynediad i gwch, awyren ysgafn neu hofrenydd i ymuno yn y chwilio.

Ar wefan Facebook, dywedodd Ms Alleyne er i'r cysylltiad diwethaf â'r cwch fod ddydd Sadwrn, ei bod hi wedi cael "neges peiriant ateb rhyfedd" ar un o ffonau'r doc lleol ddydd Sul.

"Ar y peiriant ateb, roedd sŵn gwynt yn chwythu a llepian dŵr, a lleisiau'r ddau dan sylw ond nid oedd modd deall beth oedd yn cael ei ddweud. Nid ydym yn gwybod os oedden nhw mewn trfferth ar y pryd,"

Ychwanegodd Ms Alleyne: "Mae'r ynysoedd sy'n gymunedau hwylio enfawr wedi uno, rydyn ni'n yn gwybod bod yr ardal fel un teulu mawr."

Mae'r Serenity yn cael ei ddisgrifio fel cwch 47tr (14m) o hyd, wedi ei gwneud o wydr ffibr gyda chragen wen, dec pren a thop cynfas glas golau.