Pryder am effaith carchar ar wasanaethau lleol
- Published
Mae 'na bryder am effaith carchar newydd posib yn Wrecsam ar wasanaethau lleol, gyda galw am ragor o fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd.
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth raglen 'Manylu' BBC Radio Cymru bod y bwrdd iechyd eisoes o dan bwysau, "ar fin torri", ac y bydd cael carchar ar gyfer dros 2,100 o garcharorion, yn gwneud y sefyllfa yn waeth.
Mae'r cyngor iechyd wedi dweud bod angen rhagor o arian ar y bwrdd iechyd yn y gogledd yn sgil y datblygiad posib ar gyrion Wrecsam - yn enwedig ar gyfer gwasanaethau meddyg teulu, ac uned frys Ysbyty Maelor yn y dre'.
Mae'r cynghorydd Arfon Jones yn cynrychioli cyngor sir Wrecsam ar y Cyngor Iechyd Cymuned:
"Fydd na alw mawr ar wasanaethau iechyd... Mae'r gwasanaeth iechyd yn Wrecsam ar fin torri oherwydd galwadau sydd 'na - aros tu allan i A&E Wrecsam, ambiwlansys yn ciwio am oriau.
"'Da ni ddim yn gallu delio efo'r galw sydd ganddo ni rwan, heb sôn am gael carchar o'r maint yna."
'Deall pryderon'
Mae Wyn Thomas o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud ei fod o yn "deall pryderon pobl" am y carchar, ond eu bod nhw yn "gweithio ar brosiect ar y foment i asesu anghenion iechyd fydd ar y carcharorion, ar effaith ar ysbyty Maelor."
Ychwanegodd Mr Thomas: "Wedi datblygu'r asesiad anghenion, fe fyddwn ni yn edrych ar fodelau o ofal... a'u costio.
"Rydan ni yn gweithio ar y ddealltwriaeth y bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo gan yr NHS yn Lloegr, drwy Lywodraeth Cymru, i'r bwrdd iechyd, i ariannu'r gwasanaethau yma i gyd".
Y carchar hwn yn Wrecsam fydd y mwyaf ym Mhrydain, ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Mae Manylu hefyd wedi clywed pryderon am ei effaith ar wasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys plismona - y bydd na gynnydd mewn tor-cyfraith ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn yr ardal.
Ond, gwrthod hynny mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan fynnu nad oes tystiolaeth i gefnogi'r farn honno.
Rhy fawr?
Mae Manylu hefyd wedi clywed pryderon am faint y datblygiad sy'n cael ei ystyried-,a'i fod llawer yn rhy fawr i anghenion lleol.
Mae pryder hefyd fod maint y carchar am wneud y gwaith o adfer ymddygiad carcharorion yn anoddach.
Mae aelod o bwyllgor cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin, Elfyn Llwyd wedi galw a'r i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling ail ystyried adeiladu carchar mor fawr yn y gogledd.
"Fy mhryder mawr i ydi nad ydi'r carchardai mawr yma yn gweithio," meddai Mr Llwyd.
Ychwanegodd: "Fel aelod o'r pwyllgor cyfiawnder yn San Steffan, fe fues i allan yn Tecsas, mae'n debyg y dalaith mwyaf adain dde yn America.
"Mae nhw yn cau y rhai 2,000 a mwy - gan eu bod nhw yn gweld nad ydy nhw yn gweithio, a'u bod nhw yn lefydd peryglus i fod ynddyn nhw...
"Os taw dyna'r dystiolaeth sydd ganddo ni, pam ein bod ni yn mynd ymlaen 'efo'r anghenfil od yma?"
'Hwb i'r economi'
Mewn datganiad, fe ddywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd y carchar newydd yn rhan bwysig o "adfer ymddygiad carcharorion, gan eu galluogi i gael eu cadw mewn sefydliad sy'n agosach i'w teuluoedd".
Ychwanegodd llefarydd y byddai'r datblygiad yn hwb enfawr i economi'r gogledd.