Dynes yn y llys am geisio llofruddio plant
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dau blentyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe wnaeth Sadie Jenkins, sy'n 27 ac o Gasnewydd, ymddangos drwy gyswllt fideo.
Mae hi wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio bachgen saith mlwydd oed a merch 16 mis oed, oedd angen triniaeth yn yr ysbyty ar ol dioddef anafiadau cyllell ym mis Mai eleni.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan fis Rhagfyr.