Cwest Alun Rees: Briwiau 'gwaethaf erioed'
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod gan ddyn gyda Syndrom Down rai o'r briwiau gwaethaf roedd rhai gweithwyr meddygol wedi eu gweld erioed.
Bu farw Alun Rees, 54, wedi i sawl un o'i organau fethu, a hynny oherwydd heintiad sepsis.
Bu farw mis wedi iddo fynd i Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Awst 2011.
Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod y tŷ mewn cyflwr gwael, a'i fod yn "anaddas i bobl fod yn byw ynddo".
'Ymysg y gwaethaf'
Roedd y dyn wedi bod yn derbyn gofal gan ei chwaer, Brenda Griffiths, yn eu cartref ym Mrymbo ers 1993.
Dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, ei fod yn credu bod y briwiau wedi bod ar gorff Mr Rees ers peth amser.
Dywedodd: "Gallai'r briwiau fod wedi bod yno ers wythnosau", gan ychwanegu bod rhai gweithwyr meddygol wedi nodi eu bod "ymysg y gwaethaf roedden nhw erioed wedi eu gweld".
Yn ôl gweithiwr yr ambiwlans aeth i gartref Mr Rees a'i chwaer, Douglas Green, nid oedd y tŷ mewn cyflwr addas i bobl fyw ynddo.
Dywedodd bod y tŷ mewn cyflwr o annibendod gydag "arogl llethol", a chytunodd bod yr arogl yn debygol o fod wedi cael ei achosi gan "ddiffyg hylendid".
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Paul Richards, nyrs yn yr uned frys, bod Mr Rees yn gwisgo dillad budr, a'i fod yn "denau a dadhydredig."
Roedd wedi canfod briwiau difrifol gan dynnu lluniau ohonyn nhw.
Dywedodd bod chwaer Mr Rees wedi cael "sioc" wrth iddo eu dangos iddi, oherwydd nad oedd hi'n credu eu bod yn ddifrifol.
Yn ôl y nyrs roedd y chwaer wedi dweud bod Mr Rees wedi bod yn iach hyd at ddwy flynedd yng nghynt, ond roedd ei iechyd wedi bod yn dirywio.
Pryderon
Clywodd y gwrandawiad gan frawd hŷn Mr Rees, John, a ddywedodd ei fod wedi gweld ei frawd am y tro cyntaf mewn 18 mlynedd pan roedd Mr Rees yn yr ysbyty.
Roedd John a'i chwaer wedi anghytuno wedi iddi ddechrau gofalu am ei brawd yn dilyn marwolaeth eu mam yn 1993.
Dywedodd ei fod yn ymweld â'r tŷ'n aml, ond nad oedd y drws yn cael ei ateb, a'i fod yn galw, ond nad oedd y ffôn yn cael ei ateb.
Clywodd y cwest ei fod wedi galw'r gwasanaethau cymdeithasol gan godi pryderon ynglŷn â gofal ei frawd a'r ffaith nad oedd ganddo unrhyw gyswllt gyda'i frawd, ond dywedodd ei fod wedi cael ei anwybyddu, ac felly rhoddodd y gorau i alw yn 2008.
Cafodd ei gwestiynu gan Angus Piper, cyfreithiwr ar ran Cyngor Sir Wrecsam, ynglŷn â pham nad oedd wedi ysgrifennu at yr adran gofal cymdeithasol i godi'r pryderon.
Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn teimlo bod angen i mi wneud hynny... roedden nhw wedi fy anwybyddu'n llwyr."
Gwadodd Mr Rees yr honiadau gan gyfreithiwr Ms Griffiths, Brett Williamson, nad oedd wedi gwneud ymdrechion o'r fath i gysylltu â'i frawd.
Mae'r cwest yn parhau.