Dod o hyd i gwpl fu ar goll yn y Caribî

  • Cyhoeddwyd
Arthur Alleyne a Sharon Went-Alleyne
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Arthur Alleyne a Sharon Went-Alleyne ar y ffordd o'u cartref yn St Lucia i Barbados

Mae awdurdodau yn y Caribî wedi dod o hyd i gwpl aeth ar goll yn eu cwch hwylio ddydd Sadwrn.

Yn ôl eu merch, Tao Alleyne, sy'n byw yn Nhreherbert yn Rhondda Cynon Taf, roedd Arthur Alleyne a Sharon Went-Alleyne yn bwriadu hwylio o'u cartref yn St Lucia i Barbados.

Doedd Ms Alleyne heb siarad gyda'i mam, sy'n wreiddiol o Telford yn Sir Amwythig, ers ddydd Gwener.

Doedd neb wedi gallu cysylltu a'r cwch ers ddydd Sadwrn.

Dywedodd Ms Alleyne bod ei thad, sy'n 63 mlwydd oed, yn forwr a chapten profiadol oedd wedi ei fagu yn y Caribî.