Gweld budd byw yn iach

  • Cyhoeddwyd
dynion ymchwil iechyd Caerffili
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o'r dynion fu'n rhan o'r gwaith ymchwil yng Nghaerffili

Mae arbenigwyr iechyd blaenllaw yn galw ar y Cymry i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain gan fabwysiadu bywoliaeth iach er mwyn arbed salwch a marwolaethau cynnar.

Mae cynhadledd iechyd Prifysgol Caerdydd heddiw'n cyflwyno darganfyddiadau astudiaeth 35 blynedd, sy'n parhau i fynd yn ei blaen, sy'n dangos y budd enfawr mewn mabwysiadu bywoliaeth iach.

Mae'r astudiaeth yn cofnodi arferion 2500 o ddynion o Gaerffili ers 1979, hyd heddiw.

Fe ddilynodd 1% o'r grŵp oleiaf pedwar neu bump o argymhellion byw yn iach.

Profir yr astudiaeth, bod y canran yma:

  • 70% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y siwgr;
  • 60% yn llai o drawiadau ar y galon neu stoc;
  • 40% yn llai wedi dioddef o gancr;
  • 60% yn llai o achosion o ddementia.

Bydd 30 o'r dynion, sydd nawr rhwng 70 a 90 oed, yn mynychu'r gynhadledd i gynrychioli budd byw'n iach.

Mae'r astudiaeth iechyd yn galw ar y Cymry i "ddeffro ac ymateb" i'r darganfyddiadau.

Cafwyd hyd mewn arolwg cenedlaethol diweddar, bod traean o weithgareddau bob dydd oedolion yn cael eu cyfyngu gan broblemau iechyd.

'Gweithredu ac atal'

Dywedodd yr arolwg bod 58% o oedolion un a'i dros bwysau neu'n ordew a bod 39% o'r boblogaeth yn parhau i fyw yn afiach.

Dywedodd Yr Athro Peter Elwood, sydd wedi arwain y gwaith ymchwil: "Mae'n bryd i ni ddeffro a gweld budd byw'n iach mewn arbed bywydau."

Meddai Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Bwriad y gynhadledd yw adeiladu ar ffydd yn ein gwasanaethau a'r rhai sy'n ei ddefnyddio.

"Mae'n canolbwyntio ar weithredu i atal, fel agwedd gynhaliol, a defnyddio adnoddau'n ofalus."

"Dyma alw ar ddatblygu cymdeithas sifil sy'n gyfrifol dros eu hiechyd eu hunain."

Mae byw yn afiach wedi cyfrannu tuag at 10% o gostau'r GIG yng Nghymru ers i'r astudiaeth ddechrau yn 1979, gyda amcan o'r gwariant yn £280 miliwn.