Bron i £2 biliwn gan yr UE i ardaloedd tlotaf Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru i dderbyn bron i £2 biliwn mewn arian Ewropeaidd, yn sgil cytundeb newydd.
Y cam nesaf yw datblygu rhaglenni i'r arian gael ei fuddsoddi yn rhai o ardaloedd tlotaf Cymru rhwng 2014 a 2020.
Mae'r aelod cynulliad Jenny Rathbone, sy'n gadeirydd ar bwyllgor monitro gwariant yr UE yng Nghymru, yn croesawu'r cytundeb.
Dywedodd: "Dyma newyddion mawr i Gymru. Ni yw un o'r rhanbarthau cyntaf i dderbyn arian. Mae'n sicr o wneud gwir wahaniaeth a bydd ystyriaeth ofalus nawr yn cael ei wneud ar lle orau i wario'r arian."
Daeth cadarnhad y llynedd bod Llywodraeth Cymru'n mynd i dderbyn yr arian a dyma'r trydydd tro yn olynol i Gymru gymhwyso i dderbyn beth sy'n cael ei alw'n "gyllid strwythurol."
Mae'r arian ar gael i'w ddefnyddio ar dwf economaidd a swyddi hir dymor.
Bydd yr arian yn cael ei roi i ardaloedd sydd â gwerth eu cynnyrch yn 75% neu'n llai na'r UE, ar gyfartaledd.