Symons wedi'i benodi'n rheolwr Fulham

Kit Symons Image copyright Empics
Image caption Ers i Symons gymryd yr awenau mae Fulham wedi ennill pedair gêm o saith yn y bencampwriaeth

Mae clwb pêl-droed Fulham wedi penodi'r Cymro Kit Symons fel eu rheolwr newydd yn llawn amser.

Cafodd cyn amddiffynwr Cymru, ac aelod o dîm hyfforddi Cymru o dan reolaeth Chris Coleman, ei benodi i'r swydd dros dro wedi i Felix Magath gael y sac fis diwethaf.

Fe gymrodd Symons, 43 oed, yr awenau ar 18 Medi, ac ers hynny mae'r clwb wedi ennill pump o'u naw gêm.

Ar y pryd roedd y clwb ar waelod y bencampwriaeth gydag un pwynt yn unig o'u saith gêm agoriadol y tymor hwn.

Ers i Symons fod yn swyddfa'r rheolwr mae'r clwb wedi cipio 13 pwynt o'r 21 oedd ar gael gan godi Fulham uwchben ardal y gwymp ar waelod y tabl.

Treuliodd Symons dair blynedd fel chwaraewr gyda Fulham lle'r oedd e a Chris Coleman yn bartneriaid yn yr amddiffyn.

Enillodd 36 o gapiau i Gymru gan sgorio ddwywaith, ond yn gynharach yn y mis fe awgrymodd Coleman na fyddai Symons yn gallu parhau yn ei swydd gyda Chymru os fyddai'n cael swydd Fulham.