Aberdyfi: Trosglwyddo tir am y tro cyntaf erioed
- Published
Am y tro cyntaf erioed, mae'r Grid Cenedlaethol yn trosglwyddo tir yn ôl i ddwylo'r gymuned.
Mae hen weithfeydd nwy Aberdyfi yn cael ei drosglwyddo'n ôl i'r Cyngor Cymunedol lleol wedi i'r clerc gynnig punt am tua 150 o aceri.
Dywedodd Neil Storkey, clerc Cyngor Aberdyfi: "Cefais alwad gan y Grid Cenedlaethol yn dweud eu bod yn bwriadu gwerthu'r tir ar y farchnad agored a dyma fi'n dweud wrtho - beth am werthu'r tir i mi am bunt yn lle hynny - a dyna beth ddigwyddodd."
"Mae'r Grid Cenedlaethol wedi bod yn wych ac wedi buddsoddi mwy na'r gofyn i'r safle. Fe gafodd dros 600 o ddrain gwynion a choed eu plannu er mwyn creu gwarchodfa i ddyfrgwn lleol."
Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio heddiw'n esbonio hanes y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol: "Rydym ni wrth ein bodd i allu cynnig y darn yma o dir i Gyngor Cymunedol Aberdyfi i'w ddefnyddio fel man cyhoeddus. Dyma'r tro cyntaf i ni drosglwyddo tir y ffordd yma."
Cenedlaethau i ddod
Mae gwaith wedi cael ei gwblhau dros yr wythnosau diwethaf i geisio gwella'r safle'n amgylcheddol, mae coed wedi eu plannu i greu gwell cynefin a hybu bywyd gwyllt.
Meddai'r llefarydd: "Mae'r safle'n hen weithdy nwy wedi gwasanaethu'r gymuned am dros 130 o flynyddoedd, mae stôr nwy wedi datblygu'n fawr dros y blynyddoedd a nawr rydym yn awyddus i'r safle gael ei drosglwyddo'n ôl fel bod gwell defnydd yn cael ei wneud ohono."
Mae'r safle, sydd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
Ac meddai Neil Storkey: "Mae'n wir wedi bod yn bartneriaeth rhwng y Grid Cenedlaethol, Cyngor Lleol Aberdyfi, Adnoddau Naturiol Cymru a'r Outward Bound yma'n lleol. Y gobaith yw bydd y safle yma i sawl cenhedlaeth ei mwynhau i'r dyfodol."