Cynlluniau i ddatblygu canol Caerdydd
- Published
Dyma sut y bydd canol dinas Caerdydd yn edrych yn y dyfodol, unwaith bydd gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd yn gyflawn.
Wrth wraidd y datblygiad, bydd 150,000 troedfedd sgwâr yn gartref i bencadlys BBC Cymru a fydd yn symud i safle'r orsaf fysiau yn 2018.
Mae'r datblygiad 'Sgwâr Capital' yn cynnwys llwybr cerdded newydd o orsaf Caerdydd i Stadiwm y Mileniwm a swyddfeydd newydd ar Wood Street.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno gan gwmni Rightacres Property.
Mae'r llwybr troed newydd i'r stadiwm, a elwir yn 'Rhodfa Mileniwm', wedi ei gynllunio i ymdopi â nifer fawr o bobl ar gyfer digwyddiadau prysur fel gemau rygbi rhyngwladol Cymru.
Dywedodd prif weithredwr Rightacres, Paul McCarthy: "Unwaith i ni sylwi ein bod yn gallu ymdopi gyda 35,000 o bobl yn gadael drwy giatiau deheuol Stadiwm y Mileniwm o fewn 20 munud, roeddem yn gwybod y gallai'r ardal ymdopi gyda 7,000 o bobl bob awr ar ddiwrnod arferol yn ystod oriau brig."
Mae'r cynlluniau ar gyfer Wood Street yn cynnwys lle ar gyfer y gwasanaeth Metro, petai'n cael ei adeiladu.