Bale yn ôl yn ymarfer
- Cyhoeddwyd

Dychwelodd Gareth Bale i hyfforddi gyda'i gyd-chwaraewyr yn Real Madrid ddydd Sul, a hynny wrth edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Lerpwl yng nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.
Nid yw Bale wedi chwarae dros Madrid ers y gemau rhyngwladol diwethaf, ond mae'r newyddion yn hwb i obeithion Cymru cyn teithio i Wlad Belg ar gyfer y gêm allweddol yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 yn ddiweddarach yn y mis.
Fe ddaeth i'r amlwg fod Bale wedi dioddef anaf i'w goes ar ôl iddo fethu dod oddi ar y fainc yng ngêm Real yn erbyn Levante ym mis Hydref.
Fodd bynnag, cyhoeddodd Madrid fod Bale yn ôl yn hyfforddi gyda charfan Carlo Ancelotti ddydd Sul, gan gwblhau nifer o ymarferion sgiliau a ffitrwydd.
Ddydd Sadwrn cafodd Madrid fuddugoliaeth o bedair gôl i ddim yn erbyn Granada, gan symud i ben tabl La liga. Maent hefyd ar frig eu grŵp yng nghynghrair y Pencampwyr gyda thair buddugoliaeth yn eu tair gêm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2014