Blacmel: Cyhuddo cynghorydd o Fangor
- Published
image copyrightCyngor Gwynedd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo un o gynghorwyr Gwynedd o flacmel.
Mae'r cyhuddiad yn erbyn Christopher James O'Neal o Fangor yn ymwneud â digwyddiad honedig ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mae Mr O'Neal yn cynrychioli ward Marchog ar y cyngor.
Mae disgwyl iddo fynd o flaen ynadon ym Mhrestatyn ddiwedd Tachwedd.
Mewn datganiad ddydd Iau, fe ddywedodd Heddlu'r Gogledd bod unigolyn wedi ei gyhuddo nos Fercher yn dilyn cwyn am flacmel yn Y Rhyl yn 2013.