CADW ddim am restru'r Coliseum
- Cyhoeddwyd

Mae CADW wedi cadarnhau na fydd y sefydliad yn rhestru'r Coliseum ym Mhorthmadog, wrth i ymgynghoriad ynglŷn â dymchwel yr adeilad ddod i ben.
Ers i adeilad y Coliseum ym Mhorthmadog gau bedair blynedd yn ôl, bu criw o bobl leol yn ceisio codi digon o arian i brynu'r adeilad er mwyn ei ail-agor, ond wnaethon nhw ddim llwyddo.
Ym mis Medi, fe werthodd y perchnogion yr adeilad i gwmni datblygu o Altrincham.
Bythefnos yn ôl fe gyflwynodd y cwmni datblygu gais i Gyngor Gwynedd er mwyn dymchwel yr adeilad, ac mae'r cyngor wedi rhoi pythefnos i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y cais.
Mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben ddydd Iau.
Penderfyniad terfynol
Fe fydd y cyngor yn cyhoeddi'r penderfyniad terfynol ar 10 Tachwedd. Yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Cymru, dyw'r Coliseum ddim yn cyrraedd y meini prawf i gael ei restru.
Ychwanegodd y llefarydd ei fod "yn deall y bydd y newyddion yn siomedig".
Mae CADW wedi gwrthod rhestru'r Coliseum unwaith o'r blaen, yn 2005. Ond fe fu arolwg yn ddiweddar wedi cais gan drigolion Porthmadog yn dilyn y cynllun i ddymchwel yr adeilad.
Ond yn ôl CADW, dyw'r dystiolaeth newydd ddim yn cyrraedd y safon i gyfiawnhau rhestru'r adeilad.
Mae Aled Llewelyn, o grŵp cyfeillion y sinema, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio gweld yr adeilad yn cael ei addasu i fod yn lleoliad adloniant yn y dyfodol.
"Does dim angen mwy o fflatiau na thafarndai ym Mhorthmadog, ond mae angen rhywle i'r gymuned gyfan allu ei ddefnyddio, ac sydd ar agor ar ôl 5yh," ychwanegodd.
'Adeilad eiconig'
Dywedodd Y Cynghorydd Selwyn Griffiths fod 'na "deimladau cymysg" yn y dref ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i'r adeilad.
"Rwyf wedi cael pobl yn cysylltu â mi, ac maent yn awyddus i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd," meddai'r cynghorydd.
"Mae llawer o bobl yn siomedig wrth feddwl fod yr adeilad yn mynd i gael ei ddymchwel ac mae ganddynt deimladau cryf ei fod yn adeilad eiconig, mae ganddynt lawer o atgofion am y lle.
"Ond mae yna hefyd rai pobl sy'n teimlo fod y Coliseum mor flêr nawr, mai'r peth gorau i wneud byddai ei ddymchwel."
Straeon perthnasol
- 30 Hydref 2014
- 16 Hydref 2014
- 23 Medi 2011
- 12 Gorffennaf 2012