Mwy na 100 o swyddi i Lannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd

Bydd mwy na 100 o swyddi yn cael eu creu yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, diolch i fuddsoddiad gan gwmni o Siapan.
Mae cwmni Calbee Inc, sy'n cynhyrchu byrbrydau, yn buddsoddi yn Ewrop am y tro cyntaf gan agor ffatri newydd yn yr ardal.
Bydd y safle newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu, dosbarthu ac ymchwil.
Bydd y buddsoddiad yn creu 100 o swyddi dros bum mlynedd, ac mae disgwyl i'r safle fod yn weithredol erbyn cychwyn 2015.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth ar gyfer y datblygiad hwn, a Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, ynghyd â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Calbee, Akira Matsumoto, sydd wedi cyhoeddi'r newyddion yn Siapan, yn dilyn cyfarfod i gadarnhau'r cytundeb.
'Lleoliad deniadol'
Dywedodd y Gweinidog: "Rwyf wrth fy modd cael cyhoeddi'r buddsoddiad newydd hwn yng Nghymru. Calbee yw'r diweddaraf o nifer o gwmnïau o Japan sydd wedi buddsoddi yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r penderfyniad i sefydlu ei ffatri Ewropeaidd gyntaf yng Nghymru.
"Dyma hefyd y prosiect buddsoddi rhyngwladol diweddaraf yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, gan brofi mai dyma'r lleoliad mwyaf deniadol, wedi i nifer o safleoedd yn Ewrop ac yn y Deyrnas Unedig gael eu hystyried.
"Mae gennym sector cynhyrchu bwyd llwyddiannus iawn yng Nghymru, a bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi ein strategaeth i dyfu ac ehangu'r diwydiant, creu mwy o swyddi a sicrhau ffyniant, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i Calbee ar gyfer y dyfodol."
'Ymrwymiad hirdymor'
Dywedodd Mr Akira Matsumoto: "Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous iawn i sefydlu ein ffatri Ewropeaidd gyntaf yng Nghymru.
"Dyma foment bwysig wrth inni sefydlu brand Calbee yn y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni'n gwneud ymrwymiad hirdymor i dyfu ein busnes o'r safle pwysig hwn yng Nglannau Dyfrdwy.
"Rwy'n gwerthfawrogi ymrwymiad a chymorth Llywodraeth Cymru a phawb arall i sicrhau ei lwyddiant".
Bydd y safle newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu, dosbarthu ac ymchwil.
Bydd y buddsoddiad yn creu 100 o swyddi dros bum mlynedd.
Mae disgwyl i'r safle fod yn weithredol erbyn cychwyn 2015.