Damwain car: Dau ddyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Wedi damwain ffordd ger Wrecsam neithiwr, mae dau ddyn wedi marw.
Dim ond un car oedd yn rhan o'r digwyddiad am 10.55pm.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A495 yn Bronington, ar y ffin â Sir Amwythig.
Roedd y car Vauxhall Corsa arian yn teithio i gyfeiriad Llannerch Banna pan darodd yn erbyn coeden.
Bu farw'r dynion - oedd yn 19 a 22 oed ac yn dod o Sir Amwythig - yn y fan.
Rwan, mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio. Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â swyddogion ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111, a nodi'r cyfeirnod R171477.