Cais am waharddeb llys i atal taliad Parry Jones yn methu

  • Cyhoeddwyd
Bryn Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,
Roedd cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid taliad diswyddo werth £330,000 i Mr Parry-Jones

Mae cais arweinydd y grŵp Llafur yng Nghyngor Sir Penfro, Paul Miller, am waharddeb llys i atal taliad diswyddo rhag mynd i'r prif weithredwr, Bryn Parry Jones, wedi methu.

Yn gynharach ddydd Gwnener roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud tro pedol ar rybudd am becyn diswyddo "anghyfreithlon" cyn brif-weithredwr Cyngor Sir Penfro, wedi i'r cyngor gyhoeddi newidiadau i'r setliad.

Mae'r setliad newydd yn is na'r gwreiddiol, a bydd Bryn Parry Jones yn derbyn £52,760 yn llai.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i Mr Parry Jones dderbyn pecyn diswyddo gwerth £330,000, gan adael ei swydd ar 31 Hydref.

Ond bnawn dydd Mawrth, fe ddatgelodd y swyddfa archwilio bod rhybudd swyddogol wedi ei roi i'r cyngor, y gallai'r taliad arwain at "wariant anghyfreithlon".

Ymysg rhesymau'r swyddfa am gyhoeddi eu rhybudd, roedd y ffaith bod y setliad diswyddo yn cynnwys taliadau gafodd Mr Parry Jones yn hytrach na chyfraniadau pensiwn.

Fis Ionawr, fe gyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad yn dweud fod taliadau hynny a dderbyniodd y prif weithredwr yn "anghyfreithlon".

Diffyg hyder

Daeth dau ymchwiliad gan Heddlu Sir Gaerloyw i'r casgliad nad oedd tystiolaeth ei fod wedi troseddu.

Ond fe gafodd pwyllgor arbennig ei sefydlu er mwyn ystyried ei ymddygiad cyffredinol wedi i'r cyngor basio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo.

Bore ddydd Iau, fe ddywedodd yr archwilydd Anthony Barrett: "Rwy'n falch bod Cyngor Sir Penfro wedi tynnu gwariant anghyfreithlon o'i setliad gyda'r prif weithredwr, Bryn Parry Jones.

"Am y rheswm hwn, rwy'n tynnu'r rhybudd gafodd ei roi ddydd Mawrth yn ei ôl, ac mae'r Cyngor yn awr yn rhydd i barhau â'r setliad."