Canolfan i 300,000 o Gymry

Canolfan yn ystod WW2
Image caption Llun gafodd ei dynnu yn y ganolfan yn ystod yr Ail Ryfel Byd - ydych chi'n adnabod rhai o'r wynebau?

Ydych chi wedi clywed am Ganolfan Cymry Llundain?

Wedi ei lleoli ar Gray's Inn Road ger King's Cross, mae'n ganolbwynt lle mae alltudion o'r famwlad yn cyfarfod i drafod, canu a dathlu.

Mae Dr Non Vaughan-O'Hagan newydd ddechrau gweithio fel pennaeth newydd y ganolfan, ac yma mae hi'n sôn am ei gweledigaeth am y dyfodol a hanes difyr y gymuned Gymreig yn Llundain:

'Paradocs hyfryd'

Image caption Un o ffenestri'r Ganolfan

Wel dyma fi. Brodor o Aberystwyth yng nghanol Llundain yn canfod y'n hunan mewn swydd lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol! Rwy'n ymhyfrydu ym mharadocs fy swydd newydd.

A swydd newydd sbon yw hi 'fyd. Ers ond wythnos a hanner, fi yw Prif Swyddog Gweithredol newydd Canolfan Cymry Llundain. Odi chi'n gwybod am y Ganolfan? Fuoch chi 'ma erioed?

Mae'r adeiliad yn un sylweddol sydd wedi'i leoli hanner ffordd ar hyd Gray's Inn Road. O'r drws ffrynt os droia' i i'r chwith mae King's Cross a St Pancras ond deng munud o gerdded ac oddi yno mae Caeredin neu'r Cyfandir o fewn cyrraedd ar drên. Deng munud o gerdded i'r dde a dacw fi yn Chancery Lane - canolfan cyfreithiol Llundain ac ar gyrion Y Ddinas.

Cartref oddi cartref

Image caption Y Llywydd presennol Huw Edwards a Syr Maldwyn Thomas oedd yn Llywydd rhwng '93 a '01

Adeiladwyd y Ganolfan - yn wir rhoddwyd yr adeilad i Gymdeithas Ieuenctid Cymry yn 1937 gan Sir Howell J Williams, gŵr a wnaeth ei elw yn codi rhai o adeiladau mwyaf eiconig y cyfnod gan gynnwys pencadlys y Daily Mail a phrif adeilad London School of Economics.

Gyda'i ffasâd ffug Tuduraidd mae pensaernïaeth werinol y Ganolfan yn adleisio rhyw neuadd bentre' yng nghanol Powys. A tu mewn - neuadd â llwyfan, bar cyfforddus lan lofft gyda'i drawstiau du, neuadd arall lawr stâr, lolfa, ystafelloedd ymarfer ac yn y blaen ac yn y blaen... Y fath haelioni! - a rhodd a fu'n werthfawr tu hwnt ond dwy flynedd yn ddiweddarach pan gychwynodd yr Ail Ryfel Byd.

Yma oedd cartref oddi adref i'r Cymry di-ri oedd yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn canfod eu hunain yn y Ddinas Fawr. Gyda chymorth ariannol yn dod o bob cwr o Gymru roedd y Ganolfan yn cynnig lloches a lluniaeth yn ogystal â dawnsfeydd a difyrrwch.

'Darganfod trysorau'

Image caption Petula Clarke a Chôr Ieuenctid Cymry Llundain yn 1969

Wedi diwedd y Rhyfel roedd yn bryd i'r Ganolfan ganolbwyntio o'r newydd ar ei phrif nod sef cynnig croeso cynnes Cymreig i'r gweithwyr a'r myfyrwyr oedd yn heidio i Lundain.

Ac yn eu mysg oedd Mam ac Anti Eileen, ill dwy wedi mentro i Lundain gyda'i gilydd i wneud ymarfer dysgu cyn dychwelyd yn ôl i Sir Gâr. Fe soniodd Mam droeon am y dawnsfeydd fu yma a'r cyfeillion clós o Gymry oedd yn ymdroelli o un capel Cymraeg i'r llall ar y Sul er mwyn cymdeithasu.

Atgofion

Image caption "We're walking in the air..."

Anodd peidio meddwl am Mam ac Anti Eileen ar fy ail ddiwrnod yn y swydd a finne yn darganfod y trysorau yng nghrombil y Ganolfan: Casgliad Siân Busby - y diweddar nofelydd a gwraig y gobebydd Robert Peston. Hithau wedi rhoi i'r Ganolfan yn ei hewyllys archif sylweddol o luniau a llyfrau a dogfennau yn olrhain hanes Cymry yn Llundain.

Agores i un drâr a chanfod torreth o luniau: pobol ifanc jyst fel Mam yn joio cwmni ei gilydd - eu Cymreictod ddim wedi pylu er eu bod tu hwnt i Glawdd Offa.

Mi oedd beichiau fy swydd newydd yn galw a doedd gen i ddim amser i whilmentan gormod a bu'n rhaid cau'r drâr. Ond fe fydd y dydd yn dod pan fyddai'n mynd ati i 'whil'o yn ofalus, yn y gobaith o ddod o hyd i lun o Mam ac mi fydd y cylch wedi'i gau.

Her y dyfodol

Image caption Llywydd Cymdeithas Cymry Llundain, yr Arglwydd Ogmore yn cwrdd â U Kyin, llysgennad Burma i'r Deyrnas Unedig ar Ddydd Gŵyl Dewi 1956. Ar y chwith mae Marie Davies o Lannon ac ar y dde Carol Morgan o Dregan

Ond am y tro, beth sy' 'da fi ar y gweill? Fy ngwelediaeth i yw bod angen i ni gymryd y cyfle gwerthfawr yma i drawsnewid y Ganolfan i fod yn Lysgenhadaeth Ddiwylliannol. Pa well amser i ddatgan yn hyderus ein diwylliant a'n hiaith i'r gymuned eang?

Mae dros 300,000 o Gymry yn byw yn Llundain a chredaf bod gan y Ganolfan gyfrifoldeb i'w cefnogi nhw yn eu hymdrech i gadw eu Cymreictod ac i ddathlu eu diwylliant.

Mae'r dyddiau o'n blaenau yn rhai heriol: angen codi ymwybyddiaeth o waith y Ganolfan i'r holl gymuned Gymreig; sicrhau bod yna raglen o weithgareddau a fydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb ac wrth gwrs, gwireddu'r cynlluniau sy'n bodoli eisioes i adnewyddu ein cartref.

Heriol yn wir ond rwy'n hyderus bod dyfodol y Ganolfan yn un disglair - yr un mor ddisglair â'r Ganolfan yr oedd Mam yn ei hadnabod.