Tri yn y ddalfa wedi marwolaeth yn Noc Penfro
- Published
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi marwolaeth dyn yn Noc Penfro ddydd Gwener.
Maen nhw'n trin y farwolaeth fel un heb esboniad ar hyn o bryd.
Mewn datganiad mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod nhw wedi arestio tri o bobl leol ar amheuaeth o lofruddio.
Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau bod y tri yn parhau i fod yn y ddalfa fore Sadwrn.