Llafur i roi mwy o bŵer i Gymru a'r rhanbarthau

Ed Miliband

Mae disgwyl i arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, alw am gael gwared ar Dŷ'r Arglwyddi ddydd Sadwrn, a dweud bod angen senedd newydd i gynrychioli trefi, dinasoedd, ardaloedd a chenhedloedd y DU yn ei le.

Mewn araith yn Blackpool, bydd Mr Miliband yn amlygu'r annhegwch sy'n bodoli o ystyried sawl arglwydd sy'n cynrychioli rhannau gwahanol o'r Undeb.

Mae Mr Miliband yn gobeithio y bydd y cynllun yn cael ei drafod mewn confensiwn cyfansoddiadol, gaiff ei gynnal os bydd Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Y bwriad, yn ôl y blaid, yw sicrhau bod ystod fwy eang o bobl yn cael eu clywed yn San Steffan.

Diffyg cydbwysedd

Yn ei araith, mae disgwyl i Mr Miliband ddweud bod y system bresennol yn methu â chynrychioli rhannau mawr o'r DU.

24 arglwydd sydd gan Gymru, o'i gymharu â 482 yn Lloegr - sy'n cynnwys 266 yn Llundain a'r de ddwyrain.

Mae gan Lundain fwy o arglwyddi na chanolbarth Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon, gogledd ddwyrain Lloegr ac ardal Swydd Efrog a Humber gyda'i gilydd.

Ac nid ardaloedd gwledig yn unig sydd ar eu colled yn ôl Mr Miliband, gan iddo ddweud bod gan ddinasoedd fel Birmingham, Bryste, Belfast a Lerpwl fawr ddim o gyfraniad 'chwaith.

Image caption Byddai Cymru a'r Alban yn cael mwy o gynrychiolaeth, yn ogystal ag ardaloedd Lloegr, dan gynllun Mr Miliband

Mae Llafur am greu siambr newydd wedi ei seilio ar gynrychiolaeth gan bedair gwlad y DU.

Bwriad yr arweinydd yw creu senedd newydd i "rannu pŵer a ffyniant ar draws y trefi, ardaloedd dinesig a gwledydd sydd ei angen".

'Rhannu adnoddau'

Mae'r blaid yn honni y byddai'r senedd newydd yn osgoi dyblygu gwaith Aelodau Seneddol yn eu hetholaethau, ac y byddai gan y siambr newydd ei rôl benodol ei hun.

Mae'r cynllun yn mynd law yn llaw hefo addewid y blaid i symud pŵer allan o San Steffan, drwy roi mwy o hawl i Gymru, yr Alban ac ardaloedd Lloegr benderfynu ar faterion sy'n eu heffeithio nhw.

Yn ei araith yn Blackpool, mae disgwyl i Mr Miliband addo rhannu'r "£30 biliwn o adnoddau" ar draws y wlad, nid yn unig i filltir sgwâr Llundain.

"Pan mae pobl yn dweud nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac nad yw'n cynrychioli nhw, mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth am y peth.

"Ni all fod yn gywir bod gan y gogledd orllewin bron yr un boblogaeth â Llundain ond dim ond ffracsiwn o'r nifer o arglwyddi sydd gan Lundain."

Bydd hefyd yn dweud: "Byddwn ni yn sicrhau bod ail siambr y senedd yn Senedd y Rhanbarthau a Chenhedloedd ein gwlad gyfan.

"Oherwydd dim ond pan mae gan bob rhan o'r wlad lais wrth galon ein gwleidyddiaeth y gallwn fod yn sicr bod ein gwlad yn cael ei reoli i bawb ac nid rhai yn unig."

Straeon perthnasol