Enwi dyn fu farw yn Noc Penfro fel Roger Williams
- Published
image copyrightPembrokeshire Herald
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi enwi dyn fu farw yn Noc Penfro ddydd Gwener fel Roger Williams oedd yn 50 oed.
Cafodd corff Mr Williams ei ddarganfod yn Pater Court, ac mae dau ddyn a dynes wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio. Maen nhw wedi eu cadw yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un welodd Mr Williams yn yr ardal rhwng 12:30 a 13:20 brynhawn Gwener i gysylltu gyda nhw ar 101.
Bydd post mortem yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Tachwedd 2014