Doc Penfro: Ymchwiliad i farwolaeth Roger Williams ar ben
- Published
image copyrightPembrokeshire Herald
Mae dau ddyn a dynes wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad yn dilyn marwolaeth dyn yn Noc Penfro.
Cafodd corff Roger Williams, oedd yn 50, ei ddarganfod yn Pater Court ddydd Gwener.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio'r tri ar amheuaeth o lofruddio.
Ond mae'r ymchwiliad bellach ar ben wedi i dditectifs benderfynu nad oedd y farwolaeth yn un amheus.
Mae'r crwner wedi cael gwybod.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Tachwedd 2014
- Published
- 1 Tachwedd 2014