Dewis Christina Rees fel ymgeisydd Llafur Castell-nedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Christina Rees ei dewis o restr fer yn cynnwys merched yn unig
Mae cynghorydd Pen-y-bont, Christina Rees wedi ei dewis i olynu'r AS Peter Hain fel ymgeisydd Llafur yng Nghastell-nedd.
Cafodd Ms Rees ei dewis o restr fer oedd yn cynnwys merched yn unig, ar ôl i'r AS ddweud y byddai'n camu o'r neilltu cyn etholiad 2015.
Fe wnaeth aelodau Llafur yng Nghastell-nedd benderfynu ddydd Sadwrn.
Yr ymgeiswyr eraill oedd Karen Wilkie a Mabel McKeown.
Straeon perthnasol
- 17 Gorffennaf 2014
- 6 Mehefin 2014