Cyngor sir yn amddiffyn polisi tocynnau parcio
- Cyhoeddwyd

Mae gyrwyr sy'n parcio ar stryd fawr yr Wyddgrug wedi derbyn 736 o docynnau parcio o fewn blwyddyn.
Mae Cyngor Sir Fflint wedi cymryd cyfrifoldeb dros roi tocynnau parcio ers mis Hydref 2013, gan wneud elw o £184, 286.44.
Mae Chris Stevenson yn gweithio yn Yr Wyddgrug a dywedodd bod "pobl ofn parcio...mae'n newyddion drwg i fusnesau."
Aeth dau o bob tri o holl docynnau parcio Sir Fflint i ardal yr Wyddgrug.
Dywedodd Prif Swyddog ar Gludiant Cyngor Sir Fflint, Steve Jones: "Mae tocynnau parcio o fudd i bawb trwy leihau tagfeydd a gwella diogelwch i holl yrwyr, yn ogystal â cherddwyr."
'Cynnydd Sylweddol'
"Mae Rheolau Parcio Sifil yn gofyn i holl yrwyr i barcio eu ceir yn gywir, gan ystyried gyrwyr eraill."
Yn Sir Fflint, Yr Wyddgrug oedd ar ben y rhestr tocynnau parcio gyda Bwcle'n ail ar 521 a Shotton yn drydydd gyda nifer sylweddol yn llai, sef 365.
Derbyniodd Mr Stevenson, sy'n gweithio mewn siop garpedi, docyn am fod ei drwydded anabledd ben i waered.
Dywedodd ei fod wedi gweld "cynnydd sylweddol" yn nifer y wardeiniaid parcio eleni.
Ond dywedodd Cerys Roberts, perchennog siop anifeiliaid anwes, bod mwy o reoleiddio ar barcio wedi helpu pobl anabl a'i fod wedi creu "mwy o ardaloedd dosbarthu."
Straeon perthnasol
- 16 Rhagfyr 2013