Ann Clwyd yn gorfod cael ei hail-ddewis
- Published
Fe fydd yn rhaid i Ann Clwyd fynd drwy'r broses o gael ei hail-ddewis fel ymgeisydd ar gyfer Cwm Cynon yn yr etholiad cyffredinol nesaf os am gadw ei sedd fel Aelod Seneddol yn 2015.
Roedd y gwleidydd, sy'n 77 oed, wedi cyhoeddi'n wreiddiol y byddai'n ymddeol ar ôl cynrychioli'r ardal ers 1984, ond mi ddywedodd ym mis Medi ei bod wedi ail-ystyried.
Dywedodd Ms Clwyd ei bod wedi derbyn "nifer o geisiadau" gan etholwyr yn gofyn iddi ail ystyried.
Ond yn ôl y Blaid Lafur Gymreig bydd yn rhaid i'r Aelod Seneddol fynd yn ôl drwy'r camau o'r dechrau oherwydd bod y broses o ddewis ymgeiswyr eisoes wedi dechrau ar ôl iddi hi gyhoeddi ei bod yn sefyll i un ochr.
'Ystyried yn ofalus'
Mewn llythyr at etholwyr mae Ann Clwyd yn datgan ei bod yn "gobeithio sefyll eto i gael fy ail-ethol ac yn gofyn am eich cefnogaeth."
Dywedodd iddi gymryd y penderfyniad ar ôl "ystyried yn ofalus yr holl ddadleuon a roddwyd i mi".
Ychwanegodd Ann Clwyd ei bod wedi cael ymateb "brwdfrydig dros ben" gan bobl ynglŷn â'i phenderfyniad.
Daw ei chyhoeddiad yn dilyn ffrae am benderfyniad y Blaid Lafur i greu rhestr fer o ferched yn unig i ddewis olynydd iddi, cafodd hyn ei wrthwynebu'n chwyrn gan y blaid yn lleol.
Yn ôl ysgrifenydd Llafur etholaeth Cwm Cynon, Alun Williams, roedd y blaid yn lleol yn fodlon mynd ar streic a pheidio cymryd rhan yn y broses o ddewis o gwbl os oedd rhestr fer o ferched yn unig yn cael ei orfodi.
Ymatebodd y Blaid Lafur yng Nghymru i sylwadau Mr Williams, drwy ddweud y byddan nhw'n gyfrifol am y broses o ddewis os oedd rhaid.
Yn y gorffennol mae Ann Clwyd wedi sefyll a cholli fel ymgeisydd Llafur yn Ninbych yn 1970 ac yng Nghaerloyw yn 1974.
Fe safodd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 1979 - 1984.
Wrth gyhoeddi ei bod wedi newid ei meddwl, dywedodd Ms Clwyd bod swyddogion o fewn y blaid wedi bod yn ymwybodol o'i phenderfyniad am beth amser ond ei bod wedi oedi rhag rhannu'r wybodaeth yma efo'r cyhoedd hyd nes i ganlyniad refferendwm Yr Alban ar annibyniaeth ddod i law.
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Medi 2014
- Published
- 23 Gorffennaf 2014
- Published
- 4 Gorffennaf 2014
- Published
- 3 Chwefror 2014